Ar y 12fed o Dachwedd, ymunodd Darren Millar, AS Ceidwadwr Cymru Gorllewin Clwyd, sy’n Prif Chwip dros grŵp Ceidwadwr Cymru yn y Senedd, efo’r Cymdeithas Geidwadol Prifysgol Aberystwyth (AUCA) mewn cyfarfodrhithwir. Yn y cyfarfod, arweiniodd Cadeirydd yr AUCA, Ellis Hawthorn sgwrs anffurfiol â Darren am ei ffydd Gristnogol bersonol yng nghyd-destun lleoedd addoli yn cael eu hystyried yn 'anhanfodol' yn ystod y ‘Firebreak’ diweddar, a sefydlwyd gan Llywodraeth Lafur Cymru.
Dywedodd Darren, sydd hefyd yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Ffydd, ‘Wnes i fwynhau gwario amser gyda’r Ceidwadwyr Prifysgol Aberystwyth heno. Anhygoel, yr hyn rydych chi'n ei ddysgu am eich gilydd dros hen sgwrs am ffydd a gwleidyddiaeth!'
Eleni mae’r Cymdeithas Geidwadol Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu Mike Wood AS, cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cynrychioli De Dudley yn San Steffan. Mae hyn yn ychwanegol i Suzy Davies, cyd-weithiwr Darren yn y grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd.
Dywedodd Sam Hall, Ysgrifennydd Digwyddiadau AUCA a cysylltiad efo’r cymdeithas Cymdeithas Geidwadol Ceredigion lleol, ‘Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Darren fis Mai nesaf wrth iddo frwydro i gadw ei sedd, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’r Ceidwadwyr Cymraeg sut bynnag y gallwn!’
Cofiwch bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymru dair gwaith fis Mai nesaf!